Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Brexit, llymder, eithafiaeth a mwy - ymateb Manon Steffan Ros i gyfnod cythryblus

Ymhlith yr ysgrifau yng nghyfrol newydd Manon Steffan Ros, Golygon, a gyhoeddir yr wythnos hon, mae’r awdur yn trafod rhai o bynciau llosg un o’r cyfnodau mwyaf cythryblus mewn cof.

Ynddi, ceir ysgrifau cynnil a theimladwy am bynciau amrywiol megis stormydd Aberystwyth, gadael yr Undeb Ewropeaidd, llwyddiant tîm pêl-droed Cymru, hela’r dryw a chofio Aberfan.

‘Wrth ddarllen yn ôl dros y colofnau, dwi’n synnu at faint ohona i sydd ynddyn nhw. Nid mewn ffordd uniongyrchol ond fel darllen hanes fy meddwl fy hun dros y bedair mlynedd ddiwethaf,’ eglurodd Manon. ‘Mae’r blynyddoedd yma wedi bod yn gyfnod anodd ofnadwy gydag ethol Trump, pleidlais Brexit ac ati - ac mae’r ysgrifau yn adlewyrchu hynny.’

‘Dwi’n gobeithio fod ’na rai o’r ysgrifau yn ei gwneud hi’n glir hefyd fod y byd trwy ein ffenestri yn llawer mwynach na’r un ar sgrins ein iPhones,’ ychwanegodd.

Ceir yma hefyd ysgrifau am unigolion sydd wedi ei chyffwrdd, nifer ohonynt wedi ein gadael yn y blynyddoedd diwethaf, fel Gerallt Lloyd Owen, Gareth F. Williams, Irfon Williams, Gwyn Thomas a Rhodri Morgan.

‘Weithiau, mae’r colofnau’n dod yn hawdd iawn, ond mae ’na ambell un wedi bod yn anodd,’ meddai Manon. ‘Mae’r rhai er cof am bobl yn gallu bod yn anodd iawn.’

Mae’r gyfrol yn rhoi golwg newydd, unigryw inni ar faterion cyfoes a’u heffaith ar bob un ohonom ni.

Mae’r gyfrol yn ddetholiad o ysgrifau sy’n seiliedig ar golofn wythnosol Manon Steffan Ros yn y cylchgrawn Golwg. Mae Manon wedi bod yn cyfrannu i’r golofn ers bron i bedair mlynedd ac ynddi mae’n ymateb i ddigwyddiadau cyfredol mawr a bach yng Nghymru a’r byd gan eu gwneud yn berthnasol i bawb.

Mae Manon wedi cyflwyno’r gyfrol i’r arlunydd Jac Jones, ‘am ei gyfeillgarwch, ei gefnogaeth, ac am awgrymu y dylwn i sgwennu colofn.’

‘Ro’n i’n nerfus ofnadwy i ddechrau, yn teimlo’r pwysau o fod yn gwneud rhywbeth hollol wahanol,’ meddai Manon.

‘Dwi’n teimlo ’mod i’n mynd yn fwy blin fel dwi’n mynd yn hŷn ac mae’r golofn yn fy helpu i o ran hynny – dwi’n cael y cyfle i ddweud fy nweud ond hefyd mae’n fy ngalluogi i weld pethau o bersbectif y rhai sydd efo barn hollol wahanol hefyd,’ meddai.

‘Mae Manon Steffan Ros yn fodlon wynebu pynciau mawr y dydd – gwleidyddiaeth, yr arweinwyr, mewnfudo, ffoaduriaid, y cynllun dadleuol i godi 8,000 o dai yng Ngwynedd a Môn, canser a chaledi bywyd bob dydd yn yr unfed ganrif ar hugain’ meddai Golygydd cylchgrawn Golwg, Sian Sutton.

‘Mae pob un golofn yn berl i’w drysori. Mae Manon Steffan Ros yn feistres ar ei chrefft. Mae’n dweud pethau mawr mewn ychydig iawn o eiriau ac mae’r straeon bach personol yn ein synnu, ein llawenhau a’n tristáu, ac yn ein deffro i weld bywyd trwy lygaid newydd’ ychwanegodd Sian.

Bydd Golygon yn cael ei lansio ym Mhalas Print nos Iau y 24 o Dachwedd am 7 o’r gloch yng nghwmni Manon Steffan Ros, Bethan Gwanas a cherddoriaeth gan Tecwyn Ifan.