Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Blodau Cymru: 'Campwaith' gan un o fotanegwyr gorau'r wlad

Mae cyfrol newydd hir-ddisgwyliedig wedi cael ei chanmol fel ‘campwaith’ gan yr Athro Deri Tomos.

Mae’r gyfrol Blodau Cymru: Byd y Planhigion a gyhoeddir yr wythnos hon gan wasg Y Lolfa yn cwmpasu gwaith oes y botanegwr Goronwy Wynne, fu’n brif ddarlithydd Bioleg a chofnodwr i Gymdeithas Fotaneg Prydain am ddeugain mlynedd.

Mae’r llyfr, sydd bron yn chwe chant tudalen gyda dros pum cant o luniau, yn cwmpasu holl blanhigion Cymru mewn cyfrol uchelgeisiol, clawr caled.

‘Mae’r gyfrol hon yn ffrwyth cariad oes’ meddai’r Athro Deri Tomos, ‘Yn ogystal â bod yn gatalogiwr o fri, mae Goronwy Wynne yn un sy’n gweld ac yn ymddiddori’n angerddol yn yr hyn sydd tu ôl i wyneb rhamantus natur.’

Mae Twm Elias hefyd wedi ei ryfeddu gan y llyfr.

‘Cyflwynir y testun mewn arddull gryno, hawdd ei deall ac sy’n bleser i’w darllen. Dyma un o fotanegwyr gorau Cymru, sy’n gyfathrebwr ac yn sgrifennwr gwych,’ meddai, ‘Gwelwn awdurdod yr arbenigwr yn serennu yma, mewn cyfrol sydd â sglein blynyddoedd lawer o saernïo gofalus arni.’

Dyma’r gyfrol Gymraeg gyntaf i geisio cyflwyno hanes a sefyllfa planhigion Cymru.

Mae’r gyfrol yn trafod eu henwau, eu dosbarthiad a’u cynefinoedd. Sonnir am ecoleg y planhigion – y rhai cyffredin a’r rhai prin, a gofynnir pam fod y peth a’r peth yn tyfu yn y fan a’r fan. Ystyrir y coed a’r rhedyn a hyd yn oed y chwyn, gan dywys y darllennydd i bob un o hen siroedd Cymru gan ddisgrifio rhyw deg safle ym mhob sir, gyda’u nodweddion a’u blodau arbennig, a sut i ddod o hyd iddynt a’u gwerthfawrogi.

Ar ôl graddio ym Mangor mewn Amaethyddiaeth a Botaneg gu Goronwy Wynne yn dysgu am gyfnod yn ei hen ysgol yn Nhreffynnon, yna yn Brif Ddarlithydd mewn Bioleg yn Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru. Derbyniodd raddau doethor o Brifysgol Cymru a Phrifysgol Salford ac mae’n Gymrawd o Brifysgol Bangor ac o Gymdeithas Lineaidd Llundain. Bu’n Gofnodydd i Gymdeithas Fotaneg Prydain ac Iwerddon am 40 mlynedd ac yn olygydd Y Naturiaethwr i Gymdeithas Edward Llwyd am ddeng mlynedd. Yn 2014 derbyniodd Fedal Wyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol.