Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Awdur am fynd a Chymru a'r Gymraeg allan i'r byd 'trwy gyfrwng straeon'

Mae awdur ifanc am fynd â Chymru a'r Gymraeg 'allan i'r byd trwy gyfrwng straeon'.

Meddai'r awdur Llŷr Gwyn Lewis sy'n cyhoeddi cyfrol newydd o ffuglen, Fabula, yr wythnos hon, 'Mae wedi mynd yn ystrydeb, bron, i ddweud bod angen i fwy o sgrifennu Cymraeg gael ei osod y tu allan i Gymru – ond yn sicr mae fframio Cymru o fewn cyd-destun Ewropeaidd a thu hwnt yn rhywbeth sy'n apelgar iawn i mi.'

'Oherwydd y teithio wnaeth sbarduno'r darnau, mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi eu gosod y tu allan i Gymru. Ac eto, gan fy mod innau'n Gymro, mae'r darnau eu hunain hefyd yn anochel yn cael eu galw 'nôl at Gymru,' meddai Llŷr.

Cyfrol o wyth stori fer yw Fabula ble plethir digwyddiadau, lleoliadau a chymeriadau go iawn gyda dychymyg pur gan fynd â'r darllenydd i bob cwr o'r byd, o'r gorffennol i'r dyfodol, i fyd ffantasi a ffaith.

'Pan nad ydw i'n gallu teithio i fydoedd eraill, dwi'n hoff o wneud hynny drwy lenyddiaeth. Does gen i ond gobeithio y caiff darllenwyr wneud yr un peth drwy gyfrwng y straeon neu'r hanesion hyn,' meddai Llŷr.

Buenos Aires, Rhufain, Dulyn, Barcelona, Kyoto, Aberystwyth, Caerdydd a Bro Morgannwg – dyna rai o'r lleoedd y mae gwyfynod y gyfrol hon yn hedfan iddynt. Ym myd y fabula, gall ffuglen droi'n wirionedd, a ffaith yn freuddwyd.

'Mae sawl ystyr i'r gair fabula – enw ar wyfyn arbennig; digwyddiadau anwir, sydd wedi eu creu o'r dychymyg; a hefyd ddeunydd crai stori, yn hytrach na stori orffenedig,' eglurodd Llŷr.

'Oherwydd y gymysgedd o brofiad personol a bywyd y cymeriadau eu hunain, hofran rhwng hanes a stori mae'r darnau. Ond mae'r cymeriadau i gyd fel petaen nhw'n cael eu galw at rywbeth, yn aml yn erbyn eu hewyllys,' meddai Llŷr.

Daeth y gyfrol yn agos iawn at ennill y Fedal Ryddiaith llynedd, gyda'r beirniaid yn canmol y casgliad gan ddatgan ei fod ar 'rheng flaen y gystadleuaeth'.

Yn wreiddiol o Gaernarfon, astudiodd Llŷr Gwyn Lewis ym mhrifysgol Caerdydd a Rhydychen. Ar ôl cyfnod yn darlithio ym Mhrifysgol Abertawe a Chaerdydd, mae bellach yn Olygydd Adnoddau gyda CBAC yng Nghaerdydd.

Cipiodd ei gyfrol gyntaf o ryddiaith Rhyw Flodau Rhyfel wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2015 yn y categori Ffeithiol Greadigol ac fe gyrhaeddodd ei gyfrol o farddoniaeth Storm ar Wyneb yr Haul (Barddas), restr fer y categori Barddoniaeth.

Yn 2017 dewiswyd Llŷr yn un o ddeg o Leisiau Newydd Ewrop 2017, fel rhan o brosiect arloesol Ewrop Lenyddol Fyw (LEuL), a arweinir gan ein chwaer sefydliad Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau (LAF).