Reviews
"Dyma ddyddiadur 'warts and all' os bu un erioed wrth i Dewi groniclo'i brofiadau, ei emosiynau a'i ddoluriau yn ystod taith 6,000 o filltiroedd o hyd ar draws Ffrainc. Heb amheuaeth mae gan Dewi Prysor lygad sylwgar, craff a dawn naturiol i fedru taro sgwrs gyda chymeriadau o bob lliw a llun ac mae ei ddisgrifiadau o'r awyrgylch cyn y gem gyntaf yn erbyn Slofacia yn Boredeaux yn llwyddo i gyfleu'r balchder a'r pleser diniwed bron o weld Cymru'n hawlio'i lle ar y llwyfan rhyngwladol..."
- Eilir Llwyd, Cylchgrawn Barn
"Prysor ar y piss! Digon hywliog yw hi, gyda'i straeon am y cefnogwyr, ei anhawster gyda'r Ffrangeg a'i gofnod cynhwysfawr o jants. Mae'r gyfrol yn gwneud defnydd clyfar o'r cyfryngau cymdeithasol, gan ein helpu ni i demilo'n rhan o'r llyfr... Mae'n werth son hefyd bod Prysor yn gallu disgrifio awyrgylch a naws yn dda hefyd..."
- Garmon Ceiro, Cylchgrawn Golwg
Fel ei nofelau, mae'r cyfan yn reid ffair o rialtwch dros ben llestri. Mae yma ddarnau doniol iawn, darnau hollol swreal a darnau sy'n siŵr o droi stumog y mwyaf gwydn ohonoch.
- Hefin Jones, Gwales
Diddanu hefyd y mae Dewi Prysor, y corwynt o gefnogwr a sgwennwr, a chorwynt o ddyddiadur a gawn ni ganddo hefyd. Mae yma stori'r pel-droed a'r Mehefin bythgofiadwy hwnnw i holl ddilynwyr y gamp yn ein gwlad. Fe gyflawnodd y gyfrol hon yr union beth a addawodd wneud: fe'm sgubodd yn f'ol, a gwnaeth imi gofio. Mi wnaeth imi chwerthin hefyd hefo'i jocs, ac i ystyried pethau'n fwy dwys ar adegau eraill trwy gyfrwng y sylwadau cymdeithasol craff sydd ynddi.
- Rhys Iorwerth, O'r Pedwar Gwynt