Hafan | Home
Y Lolfa - Gwasg fywiocaf Cymru
Talybont  Aberystwyth  Ceredigion  Cymru/Wales  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ffacs 832 782   ylolfa@ylolfa.com
Chwilio am lyfr

chwilio manwl


Dinas logo



Clawr | Cover
Cunval's Mission
David Hancocks
manylion llawn

£5.95  


Cadw mewn print

Fel y nodwyd yn gynharach, bydd gan yr awdur ddau ddewis pan ddaw'r Cytundeb Cyhoeddi cychwynnol i ben wedi dwy flynedd. Rydym, yn naturiol, yn gobeithio y bydd yr awdur am barhau i gyhoeddi gyda Dinas a'n dymuniad ni fyddai parhau i gefnogi'r llyfr. Ar y llaw arall. . .

Efallai y bydd yr awdur wedi bod yn lwcus iawn, ac wedi cael sylw da i'r llyfr yn y cyfryngau, ac wedi derbyn cynnig deniadol gan wasg arall i gyhoeddi'r llyfr yma neu un arall. Bydd yr awdur yn rhydd i dderbyn unrhyw gynnig o'r fath. Os digwydd hyn, bydd am dorri'r cysylltiad a Dinas - neu efallai y bydd ganddo reswm arall dros wneud hynny. Bydd yr awdur wedyn yn rhydd i atafaelu unrhyw stoc lyfrau o warws Y Lolfa ac yn naturiol fe ddileir unrhyw gyfeiriad at y llyfr yn rhestrau a chatalogau Dinas a'r Lolfa.

Os bydd yr awdur am barhau i gyhoeddi gyda Dinas, fe lunir Cytundeb Cyhoeddi newydd sbon, a fydd yn debyg iawn i gytundeb arferol Y Lolfa. Ni fydd yna addewid pendant i ailargraffu, er y bydd y cyhoeddwyr yn awyddus i wneud hynny os bydd y llyfr yn parhau i werthu. Ond os bydd y llyfr allan o brint am gyfnod o amser, bydd yr awdur wedyn yn rhydd i derfynu'r cytundeb.

Beth bynnag fydd dewis yr awdur, bydd Y Lolfa'n parhau i anfon unrhyw arian dyledus ato, er enghraifft unrhyw daliadau hawlfraint yn deillio o'r argraffiad cyntaf.

I orffen. . .
Mae rhai wedi gofyn i ni - pam y gair "Dinas"? Na, nid Caerdydd yw'r ystyr, ond Dinas Gymreig! Y mae'n hen air sy'n tarddu o'r Frythoneg gan olygu "caer" yn wreiddiol. Efallai y gwyddoch am yr ymadrodd Beiblaidd, "dinas barhaus". Beth bynnag, mawr obeithiwn y bydd Dinas yn medru cynnig cartref diogel i'ch gwaith - ac y bydd y gwaith yn ei dro yn cyfoethogi bywyd y Ddinas eang sef yw Cymru!




Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304

Newydd!

Clawr | Cover O Wythnos i Wythnos
O Wythnos i Wythnos
R Gerallt Jones
£9.95
manylion llawn

Clawr | Cover Hunangofiant Eirwyn George: Fel Hyn y Bu
Hunangofiant Eirwyn George: Fel Hyn y Bu
Eirwyn George
£9.95
manylion llawn

Clawr | Cover Cerddi
Cerddi'r Galon
Susan May
£4.95
manylion llawn

Clawr | Cover Hiwmor Garnon
Hiwmor Garnon
Garnon Davies
£4.95
manylion llawn