![]() CYHOEDDI GYDA DINAS1. Cyflwyniad2. Y Cytudeb Cyhoeddi 3. Cyflwyno'ch Gwaith 4. Talu 5. Y Broses Olygyddol 6. Dylunio'r Llyfr a'r Clawr 7. Cynhyrchu'r Llyfr 8. Marchnata 9. Cadw mewn Print
£5.95 MarchnataBydd Y Lolfa'n gyfrifol am gofrestru'r llyfr, ac yn:• rhoi Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol iddo. Mae hwn yn rhif unigryw sy'n cofrestu'r llyfr fel un o rai Y Lolfa; • yn rhoi gwybodaeth lawn am y llyfr i Wasanaethau Llyfryddol Whittaker. Canlyniad hyn fydd cynnwys y llyfr yn rhestrau'r Bookseller , gyda'r Llyfrgell Brydeinig, ac yn y CD-Romau a anfonir at bob llyfrwerthwr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban; • anfon copiau hawlfraint at y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a llyfrgelloedd eraill. Ond go brin y bydd y llyfr yn gwerthu llawer os na wneir mwy na hyn! Mae marchnata effeithiol yn hollbwysig, ac fe drafodir strategiaeth marchnata ar gyfer y llyfr, gyda'r awdur, mewn Cyfarfod Marchnata a gaiff ei gynnal o leia fis cyn y dyddiad cyhoeddi. Fe wneir y tasgau marchnata sylfaenol hyn ar gyfer pob llyfr: • Fe anfonir 30 copi adolygu at bapurau a chylchgronau addas. Bydd croeso i'r awdur awgrymu enwau i'w cynnwys yn y rhestr. • Fe ysgrifennir datganiad i'r wasg yn rhoi hysbys i'r llyfr ar ffurf "stori" a'i anfon, gyda llun os yn berthnasol, ar ffurf papur ac e-bost at y wasg a'r cyfryngau. • Fe anfonir Dalennau Gwybodaeth Gynnar am y llyfr at ein dosbarthwyr a'n cynrychiolwyr. Dalennau A4, lliw llawn yw'r rhain yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol am y llyfr a'r awdur. • Caiff gwybodaeth lawn am y llyfr ei roi ar ein safwe, www.ylolfa.com, a gwybodaeth am yr awdur yn ein hadran awduron. • Fe anfonir hysbysebion am y llyfr i'r papurau a chylchgronau mwyaf addas ym marn y cyhoeddwyr; hefyd fe gynhwysir teitlau Dinas yn hysbysebion cyffredinol Y Lolfa. Ond ni allwn warantu y gwerir unrhyw swm penodol ar hysbysebu. • Bydd Y Lolfa'n cynhyrchu taflen arbennig ar gyfer Dinas, gan ei chyfoesi'n gyson a'i dosbarthu gyda phostiadau'r wasg. Ond pwrpas y Cyfarfod Marchnata fydd edrych ar bosibliadau pellach, er enghraifft lawnsiad/sesiynau llofnodi mewn siop lyfrau, ymddangosiadau ar y cyfyngau, a ffyrdd o gael sylw mewn papurau lleol a chenedlaethol. Bydd llwyddiant hyn i gyd yn dibynnu ar gystylliadau personol yr awdur, ac ar ei frwdfrydedd. Byddai o gymorth mawr i ni gael CV llawn o'r awdur. Wedi cwblhau'r marchnata cychwynnol, fe wnawn ein gorau i werthu'r llyfr yng Nghymru a thu hwnt, gan ymateb ar unwaith i archebion post, ffon, ffacs, e-bost, y we - ac i gwsmeriaid a fydd yn galw yn ein siop! Ond ni allwn addo unrhyw ffigwr pendant o werthiant. Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE +44(0) 1970 832 304 |
rhowch fi ar e-restr Y Lolfa Newydd!
Llyfrau newydd eraill: |







