Y Lolfa logo
Hafan | Home
english
gwasanaethau argraffu

diogelwch a phrifatrwydd

Crëwyd y wefan gan
Technoleg Taliesin Cyf.
Dewislen gweinyddu

newyddion o'r Lolfa Dinas, gwasgnod newydd Y Lolfa

  EWCH     chwilio manwl
Dinas logo


CYHOEDDI GYDA DINAS

1. Cyflwyniad
2. Y Cytudeb Cyhoeddi
3. Cyflwyno'ch Gwaith
4. Talu
5. Y Broses Olygyddol
6. Dylunio'r Llyfr a'r Clawr
7. Cynhyrchu'r Llyfr
8. Marchnata
9. Cadw mewn Print

Clawr | Cover
When the Kids Grow Up
Ken James
Manylion llawn

£6.95   Ewch | Go


Dylunio'r llyfr a'r clawr

Dylunio'r tu mewn
Pan fydd y testun yn hollol barod, y cam nesaf yw ei "lifo" i mewn i fformat tudalennau, ynghyd ag unrhyw luniau, penawdau, mynegeion &c. Fe wneir y gwaith yma naill ai yn y rhaglen Quark Express (Afal Ap) neu Indesign (PC). Bydd gennym ddyluniadau parod wrth law. Bydd gan bob un o lyfrau Dinas yr un feingefn (210mm) ond gallai maint y dudalen amrywio rhwng A5 (210x148mm) a A2/6 (210x210mm). Mae A5 yn faint poblogaidd sy'n ddelfrydol ar gyfer y rhan fwyaf o lyfrau, ond os oes yna lawer o luniau, byddai'r maint arall, "sgwar" yn well. Mae'r ddau faint yn hwylus ar gyfer eu dangos mewn siopau llyfrau.

Y mae yna ddwy ffordd o wneud y dylunio mewnol:

DEWIS A
O dan ofal Y Lolfa. Dyma'r dewis delfrydol gan fod gennym ddylunwyr profiadol sy'n gallu gweithio'n gyflym ac yn gywir. Gyda thestun syml, mae'r gost yn rhatach nag a llyfrau cymhleth. Fe nodir tri lefel o gost - "testun syml", "academaidd" neu "llawn lluniau" - ar y ddalen gostau. Mae'r prisiau'n cynnwys darparu proflenni.

DEWIS B
Mewn egwyddor, fe allai'r gwaith yma gael ei wneud yn allanol, os ydi'r awdur ar delerau da â dylunydd profiadol. Fe fyddwn yn darparu templat, ffontiau &c ar gyfer y rhaglen a ddefnyddir. Byddai'n angenrheidiol i ni gael sgwrs dechnegol gyda'r dylunydd cyn dechrau. Yn yr achos yma, byddai talu yn fater i'w setlo rhwng yr awdur a'r dylunydd.

Dylunio'r clawr
Bydd gan y clawr, fel y tu mewn, gynllun penagored a fydd yn gyffredin i holl lyfrau Dinas. Fe wneir unrhyw waith gosod &c yn rhad ac am ddim gan Y Lolfa. Bydd yn rhaid i'r awdur ddarparu llun ohono'i hun, a bywgraffiad byr.

Gellir darparu'r gwaith celf ar gyfer y clawr blaen mewn un o dair ffordd:

DEWIS A
Yr awdur i ddarparu celf neu ffotograffwaith o'i ddewis ei hun. Bydd yn rhaid i'r Lolfa gytuno i'r dewis.

DEWIS B
Fe fydd Y Lolfa'n comisiynu celf neu lun gwreiddiol ar gyfer y clawr blaen. Gallai'r ffi amrywio rhwng £100 a £350.

DEWIS C
Gallwn ni ddarparu celf digidol di-hawlfraint am bris isel - i'w gymeradwyo gan yr awdur.