Y Lolfa logo
Hafan | Home
english
gwasanaethau argraffu

diogelwch a phrifatrwydd

Crëwyd y wefan gan
Technoleg Taliesin Cyf.
Dewislen gweinyddu

newyddion o'r Lolfa Dinas, gwasgnod newydd Y Lolfa

  EWCH     chwilio manwl
Dinas logo



Clawr | Cover
Manawl's Treasure
Liz Whittaker
Manylion llawn

£5.95   Ewch | Go


Y broses olygyddol

Costau golygyddol
Mae yna dri dewis, sy'n amrywio'n fawr o ran cost. Nodyn: ni dylai awdur, pa mor brofiadol bynnag, olygu ei waith ei hun! Mae golygydd allanol wastad yn gwella'r gwaith.

DEWIS A
Bydd yr awdur yn gofyn i olygydd y mae'n ei adnabod olygu'r gwaith, a'r awdur fydd yn ei dalu. Bydd yn rhaid i chi adael i ni wybod ymlaen llaw pwy fydd y golygydd. Rhaid i'r golygydd fod yn barod i ddelio a'r proflenni, yn ogystal a golygu'r llawysgrif.

DEWIS B
Caiff y llyfr ei olygu gan wasanaeth golygyddol Y Cyngor Llyfrau. Bydd Y Lolfa yn gofalu am hyn ar ran yr awdur. Y mae'r gwasanaeth hwn yn un i gyhoeddwyr yn unig. Wrth reswm, y mae'r dewis yma yn dibynnu ar gytundeb y Cyngor Llyfrau.

DEWIS C
Golygu gan olygydd allanol, annibynnol. Mae gennym restr o olygyddion profiadol y byddwn yn eu defnyddio ein hunain. Fel arfer maen nhw'n codi �10 - �12 yr awr. Fe fydd Y Lolfa yn goruchwylio'r gwaith. Fe ofynnir am bris ymlaen llaw, ond gall y gwaith fod yn fwy na'r disgwyl. Caiff y bil terfynol ei ychwanegu at gostau'r awdur.

Cywiriadau i'r testun
Mae'n hawdd anghofio bod yn rhaid i rywun yn rhywle roi holl newidiadau'r golygydd i mewn yn y testun, ac wedyn yn y proflenni tudalen. Fe wneir y gwaith yma yn fewnol gan Y Lolfa. Rhoddir amcangyfri o'r gost y dudalen ar y ddalen gostau amgaeedig. Petai golygydd allanol yn barod i wneud y gwaith yma, fyddai yna ddim cost ychwanegol. Mewn rhai amgylchiadau, gallai'r awdur ei hun wneud y gwaith, ond dyw hyn ddim yn syniad da, fel arfer.