Y Lolfa logo
Hafan | Home
english
gwasanaethau argraffu

diogelwch a phrifatrwydd

Crëwyd y wefan gan
Technoleg Taliesin Cyf.
Dewislen gweinyddu

newyddion o'r Lolfa Dinas, gwasgnod newydd Y Lolfa

  EWCH     chwilio manwl
Dinas logo



Clawr | Cover
Ar Bwys y Ffald
Gwilym Jenkins
Manylion llawn

£7.95   Ewch | Go


Cyflwyno'ch gwaith

Dylech anfon eich gwaith at Golygydd Cyffredinol y wasg. Dylai fod ar ffurf teipysgrif wedi ei argraffu gan eich cyfrifiadur. Gallwn roi ffeil arbennig i chi - "normal.dot" - a ffontiau Cymraeg sy'n hwyluso teipio acenion Cymraeg. Mae gennym hefyd ddalen o gyfarwyddiadau cysodi syml ar gyfer awduron. Gofynnwch amdani os nad yw'r gwaith eisoes wedi ei orffen.

Yn ddelfrydol, dylech anfon disg hefyd. O leiaf, dylech gadw copi diogel o'r gwaith ar ddisg gartref. Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw golled.

Weithiau, gall adroddiad gan ddarllenydd hollol annibynnol fod o gymorth mawr, nid yn unig i asesu'r gwaith, ond hefyd trwy gynnig awgrymiadau a gwelliannau. Gallwn gomisiynu adroddiad o'r fath gan ddarllenydd (na fydd yn ddienw!) am bris rhesymol.

Bydd ein Pwyllgor Golygyddol yn cymryd tua 6 wythnos i asesu eich gwaith. Cewch wybod wedyn a ydyw'n addas i'w gyhoeddi o dan Dinas. Os caiff eich gwaith ei dderbyn, fe gewch gopi o'n Cytundeb Cyhoeddi. O hynny ymlaen, byddwch yn delio o ddydd i ddydd ag aelod o staff Y Lolfa a fydd yn gweithredu fel golygydd Dinas. Fe fydd ef neu hi yn gofalu am yr holl broses o gynhyrchu a chyhoeddi eich llyfr.