
CYHOEDDI GYDA DINAS
1. Cyflwyniad2. Y Cytudeb Cyhoeddi
3. Cyflwyno'ch Gwaith
4. Talu
5. Y Broses Olygyddol
6. Dylunio'r Llyfr a'r Clawr
7. Cynhyrchu'r Llyfr
8. Marchnata
9. Cadw mewn Print

O Ben yr Aber
O T Evans
Manylion llawn
£4.95
Y Cytundeb Cyhoeddi
Bydd y Cytundeb Cyhoeddi yn debyg iawn i un arferol Y Lolfa, ond gyda rhai cymalau pwysig sy'n fwy ffafriol i'r awdur. Dyma grynodeb o'r prif bwyntiau:Yr awdur yw perchennog hawlfraint ei waith. Trosglwyddir yr hawl i'w gyhoeddi i'r cyhoeddwr am gyfnod cychwynnol o ddwy flynedd. Os bydd y llyfr yn gwerthu allan cyn diwedd y ddwy flynedd, bydd y cyhoeddwr yn ailargraffu'r llyfr yn rhad ac am ddim. Pan ddaw'r ddwy flynedd i ben, gall yr awdur barhau i gyhoeddi gyda Dinas, neu gall derfynu'r cytundeb gan gymryd y stoc i gyd o'r Lolfa.
Mae'r rhediad argraffu a'r pris i'w cytuno gan yr awdur a'r cyhoeddwr, ond gan y cyhoeddwr y mae'r gair olaf os bydd anghytundeb. Ni ellir argraffu llai na 500 copi, na dim mwy na 1,000 heb gytundeb yr awdur.
Bydd y cyhoeddwr yn gyfrifol am werthu hawliau yn y dull arferol, gan roi 67% o'i holl dderbyniadau i'r awdur.
Telir breindaliadau ddwywaith y flwyddyn ar gyfer cyfnodau yn diweddu ym Mawrth a Medi; bydd y breindal yn 25% o'r holl symiau a dderbynia'r cyhoeddwr.
Fe gaiff yr awdur 30 copi rhad, a gall brynu copiau ychwanegol ar ostyngiad o 35%.








