Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Sesiwn Stori gyda Bethan Gwanas

Cyfle i wrando ar yr awdur arobryn Bethan Gwanas, awdur Coeden Cadi a Cadi dan y Dŵr, yn sôn o ble daw ei syniadau ac yn darllen pytiau o’r llyfr newydd sydd ar y gweill, lle bydd Cadi yng ngwlad y deinosoriaid! Bydd cyfle hefyd i dynnu lluniau a lliwio tylwyth teg, môr-forynion a deinosoriaid!

Merch fferm o ardal Dolgellau yw Bethan. Graddiodd mewn Ffrangeg yn Aberystwyth cyn gwneud amryfal swyddi, yn cynnwys gweithio gyda'r VSO yn Nigeria. Mae’n adnabyddus fel awdures boblogaidd, teithwraig, cyflwynydd rhaglenni teledu a mwy.