Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Rhagfyr
21
(2017) 11:00
WHSmith Penybont
Sesiwn lofnodi gyda Lee Byrne yn WHSmith Penybont
Dewch draw i WHSmith Penybont ar ddydd Iau 21 Rhagfyr rhwng 11 ac 1
o'r gloch ar gyfer sesiwn lofnodi gyda Lee Byrne a'i hunangofiant newydd sbon, The Byrne Identity.
Dyma hunangofiant gonest a grymus Lee Byrne, a fagodd wytnwch ar ystad dai arw ym Mhenybont ac ar safleoedd adeiladu yn yr ardal, cyn cyrraedd uchelfannau'r byd rygbi yng Nghymru a chyda'r Llewod. Dyma stori un o dalentau llachar rygbi Cymru yn y cyfnod modern.