Lansio Blodau Cymru gan Goronwy Wynne
Dyma gyflwyniad i flodau a phlanhigion Cymru ynghyd â chynefinoedd, ecoleg, hanes a nodweddion y planhigion. Ceir pennod ar bob un o hen siroedd Cymru, sef eu nodweddion a'u blodau arbennig, a rhoddir arweiniad clir ar sut i fynd ati i ddysgu mwy am y blodau hyn.
Dyma’r trosolwg cyntaf yn y Gymraeg i’r maes yma sydd yn “gyfraniad pwysig tuag at lenwi’r bwlch ac ymestyn gorwelion y Gymraeg.”
Trysor o gyfrol fydd yn anhepgor i bawb sy’n ymddiddori mewn planhigion a bywyd gwyllt Cymru.
Bu Goronwy Wynne yn bennaeth Adran Bioleg Athrofa gogledd-ddwyrain Cymru hyd ei ymddeoliad. Mae'n fiolegydd cydnabyddedig ac wedi ymwneud llawer a Chymdeithas Edward Llwyd.