Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Golygon - Noson yng nghwmni Manon Steffan Ros

Ymunwch a ni ym Mhalas Print ar nos Wener 24 o Dachwedd am 7 o'r gloch ar gyfer noson yng nghwmni yr awdur Manon Steffan Ros.

Bydd Manon yn sgwrsio gyda Bethan Gwanas am ei chyfrol newydd o ysgrifau, Golygon, ac yn cadw cwmni i'r ddwy bydd Tecwyn Ifan.

Bydd mins peis a gwin cynnes hefyd ar gael. Mynediad am ddim a croeso cynnes i bawb.

~~~

Dyma ddetholiad o ysgrifau gan Manon Steffan Ros, un o awduron mwyaf amryddawn Cymru. Ceir ysgrifau cynnil a theimladwy am bynciau amrywiol, o stormydd Aberystwyth
a hela’r dryw i gofi o Aber-fan.

Ceir yma hefyd ysgrifau am unigolion sydd wedi ei chyffwrdd, nifer ohonynt wedi ein gadael yn y blynyddoedd diwethaf, fel Gerallt Lloyd Owen, Gwyn Thomas a Rhodri Morgan; a rhai sydd wedi ei chythruddo fel Neil Hamilton a Donald Trump.

Mae’r gyfrol yn rhoi golwg newydd, unigryw inni ar faterion cyfoes a’u heffaith ar bob un ohonom ni. Fel y dywed Siân Sutton, golygydd y cylchgrawn Golwg, a gyhoeddodd y colofnau yn wreiddiol: “Mae pob un golofn yn berl i’w drysori... gan feistres ar ei chrefft.”