Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Byd Hudolus Maes y Mes

Dyma gyfle i dreulio awr ym myd hudolus Maes y Mes (Y Lolfa), byd sy’n llawn tylwyth teg hoffus a hwyliog sydd yn ein dysgu i ofalu am ein byd, pwysigrwydd ffrindiau a helpu ein gilydd. Cewch gyfle i greu straeon tylwyth teg y goedwig gyda’r awdur Nia Gruffydd yna bydd gweithdy crefft gyda’r arlunydd Luned Aaron.

Mae Nia Gruffydd yn byw yn Dinas, Llanwnda ac mae’n gweithio fel Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd yng Ngwynedd. Cyn hynny bu’n Llyfrgellydd Plant a Phobl Ifanc gyda Llyfrgelloedd Ynys Môn a Gwynedd.

Daw Luned Aaron yn wreiddiol o Fangor. Bellach, mae hi'n byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr a'i dwy ferch fach. Mae'n arddangos yn gyson mewn orielau ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys Oriel Kooywood yng Nghaerdydd ac Oriel Tonnau ac Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn y Gogledd. ). Llynedd, enillodd Luned wobr Tir na-nOg gyda’i chyfrol hardd ABC Byd Natur.