| Atgofion Hen Wanc David R Edwards Llyfrau eraill gan David R Edwards
Yn y gyfrol hon ceir stori unigryw un o arwyr y sin roc Gymraeg, yn syml ac yn onest yn ei eiriau ei hun. O gael ei flas cyntaf ar gwrw yn bedair oed i'w broblemau gydag alcohol a salwch meddwl yn y degawdau diwethaf, does dim yn arferol nac yn gyfforddus ym mywyd David R. Edwards.
Ceir yma gipolwg ar dwf Datblygu, ei gyfeillgarwch a John Peel (a drefnodd bump sesiwn iddo ar Radio One), ond yn bennaf ceir darlun o'i frwydr yn delio gyda bywyd, swyddi gwael, merched ac alcohol. Fel ei ganeuon, mae'r ysgrifennu yn amrwd, yn onest ac yn llawn hiwmor tywyll.
Yn ol ei gyfaill Emyr Glyn Williams, "mi fydd yr hunangofiant yn cymeryd ei le gyda gweddill gwaith Dave ac yn taro goleuni ar un o drysorau artistig pwysica ein diwylliant."
ISBN: 9781847711892
Adran: Cofiannol Cerddoriaeth
Iaith: Cymraeg
£6.95
Adolygiadau "Yr athrylith o Gymro mwyaf call ers Gwyn Alf. Trysor cenedlaethol heb os nac oni bai." - Gari Melville "Dave Datblygu: Gwir Dywysog Cymru; Y Comiwnydd ola yn Ewrop sy rhy sgint i fynd i Ciwba; Godfather cenedlaethol Cool Cymru; cyfansoddwr pwysica'r oes fodern Cymraeg; Prifardd y Public Shelter; Llew, Arth, Blaidd neu, erbyn hyn, Y Mynach Modern - or is it Sion Corn?... ond cofiwch mai Bastard Anobeithiol yw ei enw canol!" - Emyr Glyn Williams |
|