| Y Dwr Lloyd Jones Llyfrau eraill gan Lloyd Jones
Mae hi'n argyfwng yn Nolfrwynog. Bwyd yn brin, yr ieir yn marw fesul un, a'r fferm yn cysgu yn yr haul gaeafol.
Rhygnu byw mae Elin, y fam a drodd ei chefn ar y byd, gan fethu dygymod a'r bryntni, yr oerni a'r tlodi. Heneiddio mae Yncl Wil, ar glos crebachlyd y fferm.
Dyw'r plant, Mari a Huw, ddim eto wedi ildio i'r drychineb sy'n ynysu'r fferm. Wrth gwrdd a Nico, Pwyliad a welwyd yn crwydro'r mynyddoedd, daw cyfle prin am achubiaeth a bywyd newydd i wlad sy'n prysur ddifa'i hun...
ISBN: 9781847711335
Adran: Llenyddol
Iaith: Cymraeg
£8.95
Gellir lawrlwytho'r cyhoeddiad yma fel eLyfr, pris: £7.95 Ffurf(iau) ar gael: .epub; Beth yw 'epub'?
Mwy am eLyfrau Y Lolfa
Adolygiadau "Roedd yn hwyr glas cael dameg ar gyfer ein hamseroedd, i beri inni wylo bwcedaid, a sobri wedyn. Nofel dawel ond hynod ddirdynnol yw hon, sydd fel petai'n gofyn: pam y caiff bwystfilod rheibus dorri'r egin man i lawr? Onid yw'n hoes ni'n graddol droi dynion yn anifeiliaid? Eto, nid pregeth sydd yma, ond stori afaelgar sy'n wahanol i ddim a ddarllenasoch o'r blaen. Gwaedd i dorri'n rhithfyd cyfrifiadurol yn deilchion." - John Rowlands |
|