| Dwylo ar y Piano 3: Dawnsiau Celtaidd Sw Gerallt Jones Llyfrau eraill gan Sw Gerallt Jones
Dyma gasgliad deniadol a ffres o ddawnsiau o wledydd Celtaidd Prydain a'r cyfandir wedi'u trefnu ar gyfer dysgwyr piano sydd eisioes wedi magu'r sgiliau elfennol. Yn ogystal a'r darnau a rydd, yn ddiau, lawer o bleser i bianyddion ifainc, ceir cyflwyniad syml a chlir o nifer o bwyntiau yn ymwneud a manylion technegol cerddoriaeth, megis amsernodau, cyweirnodau, rhythmau, arwyddion a thermau.
Hwn yw trydydd llyfr Sw Gerallt yn y gyfres Dwylo ar y Piano ac fe ddylai gael croeso mawr gan athrawon a dysgwyr fel ei gilydd, a fydd yn gallu elwa o ymdriniaeth arbenigol a gofalus athrawes biano brofiadol iawn.
ISBN: 9781847712455
Adran: Cerddoriaeth
Iaith: Cymraeg
Rhan o'r cyfres: Dwylo ar y Piano
£6.95
|
|