Hafan | Home
Y Lolfa - Gwasg fywiocaf Cymru
Talybont  Aberystwyth  Ceredigion  Cymru/Wales  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ffacs 832 782   ylolfa@ylolfa.com
Chwilio am lyfr

chwilio manwl


Clawr | Cover

Valentine

Arwel Vittle  Llyfrau eraill gan Arwel Vittle

Un o genedlaetholwyr Cymreig ac arweinwyr Cristnogol mwyf Cymru yn yr ugeinfed ganrif oedd Lewis Valentine. I Gwynfor Evans yr oedd yn "ymgorfforiad o'r gorau ym mywyd y genedl". Yn y cofiant cyflawn yma dilynir ei yrfa o Landdulas i ffosydd y Rhyfel mawr, o ddyddiau cynnar Plaid Cymru i garchar Wormwood scrubs am ei ran yn llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth, a'i gyfnod fel gweinidog yn Llandudno a Rhosllannerchrugog.
Gan ddefnyddio ffynonellau heb eu cyhoeddi o'r blaen - y dyddiaduron gwreiddiol a gadwodd Valentine yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a gohebiaeth bersonol rhyngddo a'i deulu a'i gyfeillion D J Williams, Saunders Lewis a Kate Roberts - edrychir ar y dylanwadau crefyddol, gwleidyddol a phersonol a ffurfiodd ei gymeriad, a throeon yr yrfa a'i arweiniodd i weithredu fel y gwnaeth. Ar yr un pryd croniclir, mewn modd meistrolgar a darllenadwy, rai o'r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn nhwf y mudiad cenedlaethol yng Nghymru.

ISBN: 0862439299

Adran: Cofiannol Hanes

Iaith: Cymraeg

£14.95     




Adolygiadau

  "Dyn yn teilyngu cofiant oedd Lewis Valentine - a dyma gofiant teilwng ohono. Llyfr sy'n darllen fel nofel: llyfr i'w drysori a'i ailddarllen." - Emyr Llywelyn




Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304