Dyma'r drydedd yng nghyfres Astudiaethau Athronyddol dan olygyddiaeth E. Gwynn Matthews. Unwaith eto, mae awduron blaengar yn llwyddo i drafod athroniaeth mewn modd sy'n hygyrch i'r sawl sydd heb gefndir academaidd yn y maes, yn ogystal â thrafod pynciau a fydd o ddiddordeb i'r arbenigwyr.
Ceir trafodaeth ar adfer y natur ddynol o safbwyntiau moesol, gwleidyddol a chrefyddol ac agweddau ar drin y sawl a gollfarnwyd. Mae'r gyfrol hon yn torri tir newydd gan ei bod, am y tro cyntaf, nid yn unig yn cadw at amcan pwysicaf y gyfres trwy wahodd athronwyr o wahanol safbwyntiau athronyddol, ond hefyd yn eu gwahodd i drafod eu safbwyntiau gwahanol o fewn yr un bennod. Gwireddir rôl bwysig y gyfres trwy bwysleisio nad statig yw athroniaeth a'i fod, yn hytrach, yn weithgaredd y mae modd ei adfer mewn sawl dull.