Fuodd Meirion Appleton erioed ofn mentro. Roedd hynny'n amlwg hyd yn oed pan oedd yn blentyn yn tyfu i fyny yng Nghapel Seion ger Aberystwyth. Pwy arall fyddai'n parhau i chwarae pêl-droed ar ôl bod â'i goes mewn plastr am ddeunaw mis - a hynny yn dawel bach heb fod Mam yn dod i wybod?
Dyma'r dewrder a'i rhoddodd ar y blaen ym myd busnes ac fel rheolwr a brofodd y fath lwyddiant wrth ennill y gynghrair a chwpanau gyda chlybiau pêl-droed Aberystwyth, Bangor a'r Bont.
Nawr, dyw e ddim ofn mentro wrth ysgrifennu yn onest ac yn gofiadwy am ei yrfa, ei gysylltiadau ymhlith enwogion y byd pêl-droed a'i fywyd personol.
Gan ddechrau gyda'r sioc o ganfod nad y dyn roedd e'n ei alw'n 'Dad' oedd ei dad biolegol, cawn glywed hefyd am y triciau gwerthu a sicrhaodd ei le fel dyn busnes llwyddiannus ym myd chwaraeon dros sawl degawd a siom ei dor-priodas a gorfod datgan ei hun yn fethdalwr.
Chwip o lyfr da i unrhyw un sydd â diddordeb mewn busnes, pêl-droed a phobl.
Y mae ein holl chwaraeon - heddiw'n iach,
A'i ddawn ef sydd ddigon;
Hwn gawr ar waith â'r bêl gron
Am mai arwr yw Meirion.
Tudur Dylan Jones