Dyma gasgliad o 11 o ganeuon Nadoligaidd, gan gynnwys hen ffefrynnau fel "Nadolig? Pwy a Wyr?" a threfniant newydd o "Hwiangerdd Mair", "Ar Noson Oer Nadolig" a "Nos Nadolig Yw". Mae yma garolau gan rai o gyfansoddwyr gorau Cymru, fel Caryl Parry Jones, Geraint Cynan, Pwyll ap Sion, Robat Arwyn, J. Eirian Jones a Meic Stevens.
Mae yma unawdau (i blant ac oedolion), ambell ddeuawd, un ar gyfer cor SATB, a phob un a chyfeiliant piano cyfoes. Mae'n gyfrol sy'n addas i'w defnyddio gan unigolion, ysgolion cynradd ac uwchradd, partion a chorau mewn ysgol, capel neu eglwys, ac mewn cyngherddau.
Cyfrol werthfawr i bawb sy'n mwynhau canu ar nosweithiau oer y Nadolig.
Cynnwys:
Angel y Nadolig
Nadolig? Pwy a Wyr?
Nos Nadolig Yw
Rwyt yn fab i mi
Seren Wen
Ar Noson Fel Heno
Noson Oer Nadolig
Hwinagerdd Mair
Un enaid bach
Fe Fydd y Ffordd yn Faith
Y Baban Hwn