Ganwyd Lyn Ebenezer ym Mhontrhydfendigaid, ac yn y gyfrol wefreiddiol hon mae'n edrych yn ôl ar ei fywyd, y cymeriadau sydd wedi'n gadael a ffordd o fyw sy'n prysur ddod i ben.
Mae'n gyfrol bersonol, grefftus am rai o'i arwyr – nifer fawr ohonynt wei cerfio'u henwau ar y bont ym Mhontrhydfendigaid ac wedi eu serio ar gof ac ymwybod yr awdur, a hynny sy'n rhoi llinyn i'r gyfrol.
Ceir portreadau o gymeriadau fel Ianto John y Potsier, Tom Lloyd Florida Shop a Guy Morgan, un o arwyr cynnar clwb pêl-droed y Bont, a cheir atgofion lu am gyfeillion a theulu a fu mor ganolog i'w fywyd.
Ceir hefyd deyrnged ardderchog i'w Wncwl dai, a laddwyd yn y Rhyfel Mawr yn ddim ond 19 oed, yn ogystal â'r bryddest bwerus iddo a ddaeth yn agos i'r brig ar gyfer y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.