Dyma ddetholiad o ysgrifau gan Manon Steffan Ros, un o awduron mwyaf amryddawn Cymru. Ceir ysgrifau cynnil a theimladwy am bynciau amrywiol, o stormydd Aberystwyth a hela'r dryw i gofio Aber-fan.
Ceir yma hefyd ysgrifau am unigolion sydd wedi ei chyffwrdd, nifer ohonynt wedi ein gadael yn y blynyddoedd diwethaf, fel Gerallt Lloyd Owen, Gwyn Thomas a Rhodri Morgan; a rhai sydd wedi ei chythruddo fel Neil Hamilton a Donald Trump.
Mae'r gyfrol yn rhoi golwg newydd, unigryw inni ar faterion cyfoes a'u heffaith ar bob un ohonom ni. Fel y dywed Siân Sutton, golygydd y cylchgrawn Golwg, a gyhoeddodd y colofnau yn wreiddiool: "Mae pob un golofn yn berl i'w drysori... gan feistres ar ei chrefft."