Adolygiadau
Campwaith. Un o'r llyfrau gorau fi wedi darllen am sbel. Mae Carwyn James yn un o fawrion Cymru heb os.
- Jonathan Edwards, AS
Dyma bortread byw a chynhwysfawr o Gymro dwfn wnaeth fyw dau fywyd mewn un, megis, yn wleidydd, athro, cyfathrebwr ac awdur, yn ogystal â strategydd rygbi gorau'r byd. Yma mae Carwyn eto'n ysbrydoli.
- Jon Gower
Dyma Gamp Lawn o gofiant sy'n torri tir newydd ym maes llenyddiaeth chwaraeon, a thu hwnt, yn y Gymraeg. Un o lyfrau'r flwyddyn heb amheuaeth.
- Yr Athro Gareth Williams
Mae enw Carwyn James yn adnabyddus ledled y byd am fod yn un o'r hyfforddwyr mwyaf dyfeisgar, arloesol ac ysbrydoledig a welodd y gamp erioed. Mae'r gyfrol yn cadarnhau'r farn honno'n gryf, wrth gwrs, ond fel sy'n gyffredin i gymaint o bobl athrylithgar a chreadigol yn eu meysydd, mae dwy ochr tra gwahanol i Carwyn James, ac mae cofiant Alun Gibbard yn cyflwyno'r gwahanol agweddau hyn o'i fywyd yn effeithiol iawn.
- Hefin Jones, Gwales
Ysgrifennodd Alun Gibbard gofiant trwyadl a deallus sydd yn llawn cydymdeimlad a llenyddiaeth. Mae Alun Gibbard yn llwyddo'n gelfydd i gyfleu cymhlethdod dyn a chwarddai â phawb a phob un ond a gadwodd iddo'i hun ganol distaw, aflonydd.
- Owen Martell, O'r Pedwar Gwynt
Yn ei arddull arbennig ei hun, mae'r awdur wedi ysgrifennu llyfr diddorol drosben am fywyd hyfforddwr rygbi mwyaf Cymru na chafodd y cyfle i hyfforddi'r tîm cenedlaethol. Mae'rn cyfuno disgrifiad manwl o fywyd Carwyn nid yn unig fel hyfforddwr rygbi gwych on hefyd fel sgolor academaidd, awdur, sylwebydd chwaraeon, ymgyrchwr gwleidyddol ac aelod amlwg o gapel. Fe gyfoethogir y dadansoddiad manwl ȃ llu o luniau perthnasol a barddoniaeth er cof am Carwyn, ac yn sicr mae'r llyfr yn gyfraniad pwysig i lenydda a'r byd cyhoeddi yng Nghymru.
- John T Morris, Y Clawdd