Newyddion
Blwyddyn gron o lenydda gan Sioned Erin yn cael ei ddathlu mewn llyfr
Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol o gerddi a rhyddiaith gan yr awdur ifanc, Sioned Erin Hughes. Mae O’r Rhuddin (Y Lolfa) yn cynnwys darn ar gyfer pob diwrnod o’r flwyddyn ac yn ganlyniad i her bersonol gan yr awdur a ddechreuodd fore Calan 2023. darllen mwy
Dwy ffrind yn cydweithio ar gyfres o straeon amser gwely i blant
Dwy ffrind, Rhiannon Lloyd Williams a Sioned Medi Evans sydd wedi creu’r gyfrol wreiddiol, liwgar, Cant a Mil o Freuddwydion a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Y Lolfa. Dechreuodd y cyfan fel prosiect ar y we ym mis Medi 2019 – Rhiannon yn ysgrifennu a Sioned yn darlunio, wedi i’r ddwy sylwi bod prinder straeon cyn cysgu i blant. darllen mwy
Epig ffantasïol newydd am ferch yn ceisio achub ei brawd
Gyda chwedlau’r Mabinogi a The Hobbit ymysg hoff straeon yr awdur, yr wythnos hon cyhoeddir epig ffantasïol newydd, Trigo gan awdur newydd. Yn fab i’r awdur Mari Emlyn a’r actor a digrifwr Emyr ‘Himyrs’ Roberts, mae Aled Emyr hefyd yn aelod o’r band Achlysurol ac yn chwarae i fandiau adnabyddus eraill yng Nghymru. darllen mwy
Nofel gyntaf Ffion Emlyn yn chwarae gyda'r ffin denau rhwng y digrif a'r difrif
Yr wythnos hon cyhoeddir nofel gyntaf Ffion Emlyn, Pen-blwydd Hapus? gan Y Lolfa. Mae’r stori yn un llawn troeon sy’n cychwyn gyda Martha y prif gymeriad yn gorwedd ar ei gwely gyda gwaed drosti a chyllell yn ei llaw. Ond yng nghanol yr elfennau tywyll mae yna hiwmor cynnes. darllen mwy
O Bontcanna i Bentawe: Dwy Gymru Robat Gruffudd
“Gallech ddadlau mai Caerdydd yw prif gymeriad y nofel hon,” medd Robat Gruffudd am Gobaith Mawr y Ganrif, sydd newydd ei chyhoeddi gan Y Lolfa. Mae ’na olygfeydd wedi eu lleoli ym Mhontcanna, Rhiwbeina, clwb y Cardiff & City, bwyty Eidalaidd yn y Bae, a Chanolfan y Mileniwm, ac mae’r prif gymeriadau’n cynnwys datblygwr tai, cyfreithiwr llwyddiannus, a Menna Beynon, pennaeth Corff yr Iaith Gymraeg. Ond caiff eu bywyd esmwyth ei styrbio pan gaiff Menna ei bygwth gan gyn gariad iddi, Trystan, o ddyddiau coleg Aberystwyth. darllen mwy
Addasu nofel boblogaidd Mared Lewis i ddysgwyr
Mae’r nofel boblogaidd i ddysgwyr Lefel Uwch, Fi, a Mr Huws, yn cael ei hail-gyhoeddi'r wythnos hon. Mae’r fersiwn newydd wedi’i addasu a’i safoni i fod yn rhan o gyfres Amdani, cyfres arbennig ar gyfer dysgwyr ar bob lefel. darllen mwy
Hiwmor y fferm yn ysbrydoli awdur adnabyddus i ysgrifennu i blant
Am y tro cyntaf, mae’r awdur o fri, Gareth Evans-Jones, wedi ysgrifennu llyfr i blant. Mae Llanddafad yn gyfrol hardd, lawn hiwmor wedi’i selio ym myd y defaid. Ceir 12 pennod – pennod ar bob mis o’r flwyddyn sy’n canolbwyntio ar ddigwyddiadau perthnasol i blant heddiw– Pen-blwydd, Ffŵl Ebrill, Mabolgampau, Eisteddfod, Calan Gaeaf, Tân Gwyllt a’r Nadolig. Yn ogystal, mae cyfeiriadau at ddigwyddiadau pwysig ym myd y defaid megis diwrnod cneifio a’r wyna. darllen mwy
Creu cyfres a chymeriad newydd i hybu iechyd meddwl plant Cymru
Nod cyfres newydd a gyhoeddir gan Y Lolfa yr wythnos hon yw gwella iechyd meddwl plant Cymru, yn ogystal â’u sgiliau llythrennedd. Cyfres o bum llyfr yw Twm y Llew, gyda phob un yn canolbwyntio ar gamau gwahanol o’r model Pum Ffordd at Les y Sefydliad Economeg Newydd (NEF), sef Cysylltu, Dal ati i ddysgu, Bod yn fywiog, Bod yn sylwgar a Rhoi. darllen mwy
Angerdd a herfeiddiad Streic y Glowyr yn cael ei rannu mewn llyfr ffotograffiaeth newydd i nodi 40 mlynedd
Bydd 6 Mawrth 2024 yn nodi 40 mlynedd ers dechrau Streic y Glowyr, a’r gwrthdaro a rwygodd ein cymunedau Cymreig. I nodi’r cyfnod hwn, cyhoeddir llyfr o ffotograffau a dynnwyd gan y wasg cyn, yn ystod, ac wedi’r gweithredu diwydiannol. Portreadir yn y ffotograffau herfeiddiad, angerdd ac undod y glowyr, eu teuluoedd a’u cymunedau. darllen mwy
Hanes Llanrwst adeg yr Ail Ryfel Byd yn ysbrydoli nofel newydd
Mae tref Llanrwst a’r Ail Ryfel Byd wedi ysbrydoli nofel newydd gyffrous sydd yn ymwneud â chariad, cyfrinachau a brad. Mae Amser Drwg Fel Heddiw gan Iwan Meical Jones yn nofel hanesyddol sy’n portreadu tref unigryw Llanrwst yn yr amser a fu. darllen mwy
Y Band of Brothers Cymraeg: Hanes catrawd Cymreig Rhyfel Gartref America
Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol ryfeddol sy’n adrodd hanes milwyr o gefndir Cymreig yn ystod Rhyfel Cartref America. Mae Dros Gyfiawnder a Rhyddid: Y Cambrian Guards, Caethwasiaeth a Rhyfel Cartref America gan Jerry Hunter yn gyfrol ddarllenadwy sy’n adrodd hanes rhai o filwyr cyffredin y 22ain Gatrawd o Droedfilwyr Wisconsin. Mae’r gyfrol yn rhoi’r un driniaeth i un o gwmnïau’r gatrawd – Co. F, a elwid hefyd yn y Cambrian Guards – ag y gwnaeth yr hanesydd Stephen E. Ambrose yn ei lyfr am Band of Brothers am gwmni o filwyr Americanaiadd ystod yr Ail Ryfel Byd. darllen mwy
Nofel newydd Llwyd Owen yn "gampwaith"
Disgrifir y nofel olaf yn nhrioleg Llwyd Owen fel “campwaith” gan Manon Steffan Ros. Dywedodd yr awdur “darllenais drwy fy mysedd. O’n i methu rhoi hi lawr”. Mae Helfa (Y Lolfa), yn nofel ddirgelwch garlamus sy’n dod â stori’r Ditectif Sally Morris i ben mewn ffordd ddramatig iawn. darllen mwy
Yr Osian Roberts arall...
Nid yr Osian Roberts fu’n hyfforddi tîm pêl-droed Cymru yw’r unig un talentog i ddod o Ynys Môn. Dyna hefyd enw artist ifanc addawol o Lannerch-y-medd sydd wedi arlunio un o lyfrau dysgu Cymraeg mwyaf poblogaidd Y Lolfa, sef Welcome to Welsh. Ac mae hefyd yn ddilynwr brwd i dîm pêl-droed Cymru! darllen mwy
Cyhoeddi argraffiad newydd sbon o gwrs poblogaidd i ddysgwyr Cymraeg
Mae’r Lolfa wedi cyhoeddi argraffiad newydd o’r cwrs poblogaidd i ddysgwyr Cymraeg, Welcome to Welsh. Wedi’i ysgrifennu gan Heini Gruffudd, mae cynnwys yr argraffiad newydd wedi’i ddiweddaru a’i ail ddylunio er mwyn ei wneud yn addas i ddysgwyr heddiw. darllen mwy
"Panorama dinesig" Luned Aaron a ddaeth yn agos at y frig yn y Fedal Ryddiaith
Yr wythnos hon cyhoeddir casgliad o storïau dinesig gan yr arlunydd Luned Aaron. Daeth Porth (Y Lolfa) yn agos at ennill cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol eleni a disgrifwyd y casgliad yn “banorama dinesig o bobl yn gwau drwy’i gilydd, pob un â’i stori,” gan Lleucu Roberts. darllen mwy
Gareth yr Orangutan yn cyhoeddi llyfr
Yn dilyn gyrfa lwyddiannus ar S4C, mae orangutang mwyaf enwog Cymru, Gareth ar fin cyhoeddi hunangofiant sy’n rhannu straeon personol a gonest am bethau pwysig yn ei fywyd fel ei gariad at chips, nain Deiniolen a thor-calon. darllen mwy
Cymru Gudd trwy lun a stori
Yn ei lyfr newydd, Cymru Gudd, mae’r ffotograffydd tirluniau Dylan Arnold yn dod â lluniau trawiadol o adfeilion Cymreig yn fyw trwy rannu hanes yr adeiladau, a’r teuluoedd oedd yn byw ynddynt. darllen mwy
Iwcs yn cyhoeddi ei ail nofel - Dal Arni
Yn dilyn llwyddiant nofel gyntaf Iwan ‘Iwcs’ Roberts, Dal y Mellt, bydd nofel ddilyniant, Dal Arni, yn cael ei chyhoeddi gan y Lolfa ar y 20 Tachwedd. darllen mwy
1-20 o 350 | 1 2 3 4 5 . . . 18 | |
Cyntaf < > Olaf |