"Cenedligrwydd, Cyfiawnder a Heddwch" yw'r ail gyfrol yn y gyfres newydd "Astudiaethau Athronyddol". Ynddi ceir erthyglau sydd yn trafod agweddau ar athroniaeth wleidyddol a hanes syniadaeth wleidyddol. Mae pob un o'r awduron wedi ysgrifennu mewn modd hollol hygyrch i'r sawl sydd heb gefndir academaidd mewn athroniaeth, ond eto'n trafod gweddau ar eu pwnc fydd o ddiddordeb i arbenigwyr yn ogystal.
Mae'r tri maes a enwir yn y teitl yn gwbl ganolog i fywyd gwleidyddol yng Nghymru a'r byd heddiw. Yn ystod y genhedlaeth hon y gwelwyd y mynegiant cyfansoddiadol mwyaf sylweddol o'n cenedligrwydd ers canrifoedd, a daeth y cysyniad o genedligrwydd yn bwnc sylfaenol iawn yn y drafodaeth wleidyddol gyfoes.
Rhyddhaodd cyplysu cyfiawnder a chenedligrwydd rymoedd syniadol chwyldroadol yn yr oes sydd ohoni ac fe gawn olwg yn y casgliad hwn ar ddadansoddiadau athronwyr diweddar fel Rawls a taylor ac activastes fel y Cenedlaetholwyr a'r Comiwnyddion Cymreig. Cafodd nifer o Gymry ifanc brofiad gwaedlyd o wrthdaro ideolegol ar faes y gad yn Irac ac Affganistan. Cawsant eu sugno i mewn i gyflafan y myn rhai sydd yn "ryfel cyfiawn". Y cwestiwn athronyddol yw, beth yw ystyr "cyfiawn" yng nghyd-destun rhyfel?
Cyfrol yw hon sydd yn codi'r pynciau na ellir eu hosgoi heddiw, a'i bwriad yw ein galluogi i weld sawl gwedd newydd ar faterion cyfoes.
Tabl Cynnwys:
Athronyddu drwy hanes athroniaeth wleidyddol
Howard Williams
Gafael Rhyfel Cyfiawn ar y Meddwl Modern
Huw Williams
Cyfiawnder John Rawls ac annibyniaeth wleidyddol i Gymru
Gwenllian Landsdown Davies
Gwladgarwch: Richard Price ar Garu ein Gwlad
E. Gwynn Matthews
Cydnabyddiaeth a Hunaniaeth
E. Gwynn Matthews
Syniadaeth Wleidyddol Gwynfor Evans
Richard Wyn Jones
'Ymwisgo Comiwnyddiaeth mewn Gwisg Gymreig'
Douglas Jones