Amcan y gyfrol hon - sy'n cael ei chyhoeddi ar achlysur traddodi Darlith James Pantyfedwen ar yr un pwnc ym Mawrth 2013 - yw cynorthwyo Cristnogion ac eraill i ddirnad sut mae ymateb i rai o broblemau mwyaf dyrys a heriol ein cyfnod cyfoes.
Beth yw'n hawliau a'n cyfrifoldeb mewn perthynas â thriniaethau genynnol neu gelloedd bonyn? Sut mae anghyfiawnder a thlodi byd-eang yn effeithio ar ein hymateb yn y Gorllewin i'r argyfwng economaidd? A ydyw newid hinsawdd yn ffaith wyddonol ac a ddylem boeni amdano neu beidio? A ellir cyfiawnhau mynd i ryfel i atal anghyfiawnder neu hawliau dynol? A oes arnom gyfrifoldeb i atal terfysgaeth beth bynnag yw'r gost mewn bywydau diniwed?
Rhoddir cryn sylw i'r seiliau Beiblaidd mewn perthynas â'r pynciau hyn yn ogystal ag i rai damcaniaethau moesol.
Ond y prif bwyslais yw'r modd y mae'r mudiad ecwmenaidd yng Nghymru ac yn fyd-eang wedi ymateb i'r cwestiynau heriol hyn yn ystod y ganrif ddiwethaf a thrwy hynny wedi'n cynorthwyo i ffeindio'n ffordd mewn byd dryslyd.
Bu Noel Davies yn ysgrifennydd cyffredinol Cyngor Eglwysi Cymru a Chytun: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, yn ddarlithydd a thiwtor ym Mhrifysgol Caerdydd, Coleg y Drindod, Caerfyrddin a Choleg yr Annibynwyr Cymraeg yn ogystal â bod yn brif arholwr mewn crefydd a moeseg i Gydbwyllgor Addysg Cymru.