| Sgymraeg Meleri Wyn James (gol.) Llyfrau eraill gan Meleri Wyn James
Yr arwydd enwog ger Treforys ar flaen y gyfrol hon yw un o arwyddion enwocaf Cymru, a'r enghraifft orau erioed o "Sgymraeg".
Beth yw "Sgymraeg"? Wel, cyfieithiad o'r Saesneg i'r Gymraeg... cyfieithiad gwael... wedi ei wneud tra bod y cyfieithydd ar ei wyliau. Neu'n gwisgo mwgwd. Neu trwy wasgu 'Translate' ar Google.
Mae cymaint ohonynt yn bla dros Gymru nes i chi'r darllenwyr ddechrau eu hanfon at gylchgrawn Golwg i golofn Jac Codi Baw.
A nawr, dyma nhw wedi eu casglu ynghyd mewn un gyfrol: y da, y drwg a'r torcalonnus, gyda chyflwyniad a jôcs gan Euron Griffith, awdur y nofel "Dyn Pob Un".
ISBN: 9781847713995
Adran: Hiwmor
Iaith: Cymraeg
£4.95
|
|