| Cyfrinachau Llynnoedd Eryri Geraint Thomas Llyfrau eraill gan Geraint Thomas
"Pam mae 'na lyn yn agos at gopa'r Wyddfa o'r enw Llyn Nadroedd? Does bosib fod 'na nadroedd yn byw mor uchel!"
Dyna'r math o gwestiwn a aeth trwy feddwl y ffotograffydd Geraint Thomas un prynhawn gwlyb.
Penderfynodd osod sialens iddo'i hun - i dynnu llun pob un o'r 140 o lynnoedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Mae'r llyfr llawn lluniau godidog hwn yn ffrwyth antur dwy flynedd o hyd i Geraint a aeth ag ef o lannau llynnoedd cyfarwydd fel Llyn Tegid i fannau mwy anghysbell fel Llyn Glas a Llyn Bach o dan gopa'r Wyddfa - boed hynny ar droed neu yn yr awyr gyda pharagleidiwr.
Bellach mae'r lluniau a'i ddehongliad o'u hanes a threftadaeth wedi eu casglu ynghyd yn y llyfr dwyieithog deniadol hwn sy'n cofnodi treigl y tymhorau a'r amrywiaeth o ran golau sy'n gwneud pob llun a llyn yn unigryw.
ISBN: 9781847713735
Adran: Celf Hamdden
Iaith: Cymraeg
£14.95
Adolygiadau "Golau chwim, anwadal ydy'r golau ar lynnoedd Eryri. Golau'r wawr ac awr fachlud ydy golau Geraint Thomas, ac mae o wedi ffrwyno'r golau hwnnw. Ffrwyth ei weledigaeth a'i ddyfalbarhad ydy'r gyfrol hon." - Gerallt Pennant
|
|