Wedi'i gosod yn Lloegr a Chymru taleithiol, mae "Standing on the Giant's Grave" yn nofel afaelgar ac emosiynol am fywyd anesmwyth merch ifanc ddeallus a galluog yn ystod blynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Wedi'i seilio ar gofiannnau a dyddiaduron athrawes go iawn, dyma stori rymus Ellen Weeton. Wedi'i charcharu mewn priodas greulon a di-gariad, caiff ei gyrru at ymyl gwallgofrwydd, lle nad oes lloches iddi yn ei chartref ei hun, ac yn colli'r peth anwylaf iddi hi - ei merch, Mary.
Gyda'i brawd a'i gwr wedi ei bradychu a'i gadael, mewn cymdeithas lle nad oes hawliau i fenywod, unig obaith Ellen o brofi hapusrwydd yw i ennill ei merch yn ol.