Cyfrol o atgofion gan y gwleidydd Elystan Morgan. Mae Elystan yn un o gymeriadau amlycaf Ceredigion, yn gyn-Aelod Seneddol ac bellach yn Farnwr ac yn Aelod o Dy'r Arglwyddi. Bu'n ymgeisydd dros Blaid Cymru nifer o weithiau cyn cael ei ethol dros y Blaid Lafur yn 1966.
Ceir amryw o hanesion yn y gyfrol, o'i blentyndod yng ngogledd Ceredigion, straeon am Blaid Cymru a'r Blaid Lafur, i'r sefyllfa presennol yn Nhy'r Arglwyddi.
Ceir penodau manwl ar ei gyfnod ym Mhlaid Cymru a'i benderfyniad i adael y blaid yn y 60au - un o'r pynciau mawr wnaeth gorddi gwleidyddiaeth Cymru yn y cyfnod. Mae'n cyfiawnhau ei benderfyniad ac yn olrhain ei waith a'i rwstredigaethau o fewn y Blaid Lafur ac fel Aelod Seneddol yng Ngheredigion hyd at 1974, ac yna ei waith yn Nhy'r Arglwyddi.