Talybont  Aberystwyth
Ceredigion  Cymru  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ylolfa@ylolfa.com
chwilio am lyfr

chwilio manwl


Clawr | Cover

Y Daith

Lloyd Jones  Llyfrau eraill gan Lloyd Jones

"Heddiw, o'r diwedd, rwyf am gychwyn ar y daith. Taith i ffeindio Meg, taith i ffeindio fi fy hunan hefyd..."

Pa un yw'r penderfyniad pwysicaf wnewch chi yn eich bywyd? Aros yng Nghymru, gwlad eich mebyd, 'ta mentro i diroedd newydd? Aros efo cariad diogel 'ta rhoi eich bryd ar rywbeth arall?

Dyna benbleth Mog. Penbleth sy'n dod i ran sawl un wrth gyrraedd canol oed. Mae un peth yn sicr: ddaw'r ateb ddim wrth olchi llestri yn swigod y sinc a phendroni am bethau bach a mawr y byd.

Yna, yn ddisymwth un diwrnod, daw rhywbeth i lenwi gorwel Mog, rhywbeth na all ei osgoi, ac mae'r dyfodol yn agor o'i flaen.

ISBN: 9781847713261

Adran: Ffuglen

Iaith: Cymraeg

£7.95     




Adolygiadau

  "Ceir y dwys a'r hwyliog yma fel dwy ochr yr un geiniog. Teimlir rhyw rym mytholegol dan yr wyneb, fel petai'r awdur yn agor y ddôr tuag at Aberhenfelen. Mae'r nofel yn ymwneud â'r pethau na all unrhyw glyfrwch modern eu dirnad. Ond yn gymysg â'r cyfan ceir dychan a chwestiynu ar y Gymru gyfoes hefyd." - John Rowlands




Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304