| Un Ddinas, Dau Fyd Llwyd Owen Llyfrau eraill gan Llwyd Owen
Aeth deg mlynedd heibio ers i Luc Swan ladd dau aelod o'r boy band 'Fflach!' ac i Emlyn Eilfyw-Jones brofi ei lwyddiant mwyaf gyda'i ffilm ddogfen am y digwyddiad hwnnw. Mae Emlyn yn dal i geisio ennill hygrededd creadigol, ond mae ei brosiect diweddaraf yn llanast llwyr ac yn sicr o dramgwyddo ei nemesis dieflig - comisiynydd ffilm a drama'r Sianel, Steffan Grey. Ac i ychwanegu at y straen, mae gan wraig Emlyn, Cariad, newyddion da o lawenydd mawr iddo...
Yn wahanol i gyfryngis Caerdydd, mae Rod wedi bod yn brwydro trwy gydol ei fywyd ar stad Trelai. Ond mae ganddo freuddwyd, a chamera fideo - ac mae llwybr ei fywyd ar fin gwrthdaro ag un Emlyn yn nofel newydd arobryn o Gaerdydd, sy'n ddilyniant i "Ffawd Cywilydd a Chelwyddau".
ISBN: 9781847713223
Adran: Ffuglen
Iaith: Cymraeg
£8.95
Gellir lawrlwytho'r cyhoeddiad yma fel eLyfr, pris: £7.95 Ffurf(iau) ar gael: .epub; Beth yw 'epub'?
Mwy am eLyfrau Y Lolfa
Adolygiadau "Dyma awdur sy'n plymio i ddyfnderoedd tywyll bywyd yn eofn a digyfaddawd gan gilwenu arnom o'r cysgodion" - Fflur Dafydd "Mae Tywysog Tywyllwch llenyddiaeth Gymraeg yn ei ol gyda nofel feistrolgar ac ysgytwol arall... does dim dianc rhag cysgodion Un Ddinas Dau Fyd" - Dewi Prysor "Aiff "Un Ddinas Dau Fyd" â chi ar daith droellog trwy emosiynau, breuddwydion a chwantau mwyaf greddfol y ddynolryw - taith lle mae'r annisgwyl yn aros ar ddiwedd pob stryd, a phob cornel yn cynyddu'r cnoi yn y stumog wrth i chi synhwyro fod rhywbeth erchyll yn llechu rownd y tro" - Dewi Prysor
|
|