| Cerddi'r Galon Susan May Llyfrau eraill gan Susan May
Cerddi i ddysgwyr gan ddysgwraig, dyma a geir yn y gyfrol hon, gyda geirfa hwylus ochr yn ochr a phob cerdd. Mae'r cerddi'n mynd a ni i hen gymoedd diwydiannol y De, lle mae'r gweithfeydd bellach yn segur a byd natur i'w weld eto yn ei holl ogoniant. Cawn gyfle hefyd i ddod i adnabod Susan May ei hun, mewn telynegion teimladwy a gonest sy'n trafod ei magwraeth a'i bywyd. Bydd "Cerddi'r Galon" yn sicr o gyfoethogi'r profiad o ddysgu'r iaith, gan apelio at ddysgwyr a Chymry Cymraeg fel ei gilydd.
ISBN: 9781847712936
Adran: Barddoniaeth Dysgwyr
Iaith: Cymraeg
£4.95
|
|