Cofi dre, chwaraewr tennis, athro, dyn trenau, beirniad Miss Rhyl, "Seren" pop, Mab y Mans...
Dyna rai yn unig o bethau na wyr y rhan fwyaf o bobl am dalentau'r darlledwr hynaws a phoblogaidd, Arfon Haines Davies. Mewn cyfrol fyrlymus, llawn hiwmor ceir atgofion dyn sydd wrth ei fodd yn ymwneud a phobol ac sydd wedi cael bywyd hynod anghyffredin, pleserus... a lwcus, medde fe.
Bu'n gweithio i HTV am 35 mlynedd a chyflwynodd ddegau o gyfresi teledu, yn cynnwys Tiswas, Penblwydd Hapus a Pacio. Mae i bob cyfres ei helyntion, ei hargyfyngau a'i phleserau...
Er gwaethaf ei fethiant yn ysgol Ardwyn (yr oedd yn ei chasau!) llwyddodd i ddilyn gyrfa ddisglair, ac er gwaetha disgwyliadau oedd arno fel "mab y mans", dilynodd ei gwys ei hun a chyflawnodd fwy na bron unrhyw ddarlledwr arall yn y Gymraeg a'r Saesneg, gyda'r hynawsedd a'r wen sydd mor nodweddiadol...