Talybont  Aberystwyth
Ceredigion  Cymru  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ylolfa@ylolfa.com
chwilio am lyfr

chwilio manwl


Clawr | Cover

Yogi: Mewn Deg Eiliad

Bryan Davies  Llyfrau eraill gan Bryan Davies

Ar bnawn Sadwrn 21 Ebrill 2007 clywodd Yogi glec anferth yn ei ben. Wrth i sgrym gyntaf y gem rhwng y Bala a Nant Conwy ddatgymalu teimlai'r glec fel "gwn twelf bor" drwy ei ben, a gwyddai Yogi yn syth ei fod wedi torri ei war. Mewn deg eiliad fe loriwyd Yogi am byth.

Yn y llyfr hwn cawn stori Yogi ers y glec enbyd honno. Cawn rannu'r boen, yr hunllefau a'r triniaethau niferus y bu'n rhaid iddo eu dioddef, cyn gallu gwireddu'r freuddwyd o ddychwelyd adre i'r Bala at ei deulu.

Fel ail ran i bob pennod mae Yogi'n edrych 'nol ar ei fywyd caled, digyfaddawd cyn y ddamwain. O ddianc o'r ysgol wedi dyrnu ei athro daearyddiaeth yn 12 oed, i ddianc o grafangau'r heddlu yn ei gar, roedd ei fywyd yn un o gyffro a helynt di-baid, nes iddo ffeindio boddhad yn chwarae rygbi i'r Bala a setlo lawr yng nghwmni'r blismones leol.

Yn nhrydedd rhan pob pennod cawn ymateb y blismones honno, Susan, a fu fel craig i Yogi wedi'r ddamwain. Cawn ei stori emosiynol, ddagreuol o orfod delio a'r ergyd enbyd hon i'r teulu. Wynebodd y cyfan yn syfrdanol o gadarnhaol, a gwnaeth bopeth yn ei gallu i ddod a chymaint o normalrwydd yn ol i'w bywyd hi, Yogi, Ilan a Teleri.

ISBN: 9781847711854

Adran: Cofiannol

Iaith: Cymraeg

£9.95     







Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304