| Crawia Dewi Prysor Llyfrau eraill gan Dewi Prysor
Mae'r Nadolig yn agosau, ac mae trigolion Graig yn hel celc ar gyfer y dathliadau. Ond mae rhyw ddihirod ar waith yn y gymuned, a'u hanfadwaith yn bygwth chwalu'r cynlluniau am Nadolig llawen a gwlyb.
Ac mae si ar led fod rhywun go enwog wedi prynu tafarn y Brithyll Brown.
Comedi dywyll yw Crawia - trydedd nofel Dewi Prysor, a dilyniant i Brithyll a Madarch.
ISBN: 9781847710888
Adran: Ffuglen
Iaith: Cymraeg
£7.95
Adolygiadau "Tu ol i'r miri, yr anhrefn, y camfihafio a'r cariad amlwg at gymeriadau a lleoliad ei drydedd nofel, mae'r awdur yn cyfleu negeseuon difrifol ynghylch cyflwr ein gwlad a dyfodol ein cenedl. Mae Dewi Prysor yn gyflym ddatblygu'n drysor cenedlaethol, ac fe wnaiff Crawia i chi chwerthin a gwingo bob yn ail. Nofel arall gwbl gofiadwy gan awdur mwyaf doniol a darllenadwy Cymru." - Llwyd Owen
|
|