Dyma'r gyfrol gyntaf i osod y Gymraeg yng nghyd-destun cyfreithiau rhyngwladol ac Ewropeaidd. Yn ol yr awdur, ni fydd y gyfraith yn ddigonol hyd nes y bydd yn cydnabod fod gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i ddefnyddio'r iaith. Mae cyfreitheg hawliau dynol Prydain yn fwy soffistigedig nag y bu erioed yn dilyn Deddf Hawliau Dynol 1998, ac mae gan y llysoedd fframwaith cadarn bellach ar gyfer ymdrin a hawliau iaith. Mae "Hawl i'r Gymraeg" yn cynnig dadleuon sylweddol i'r mudiad iaith yng Nghymru wrth i'r galw am ddeddf iaith gadarnach gynyddu.