Talybont  Aberystwyth
Ceredigion  Cymru  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ylolfa@ylolfa.com
chwilio am lyfr

chwilio manwl


Clawr | Cover

Y Cawr o Rydcymerau: Cofiant D.J. Williams

Emyr Hywel  Llyfrau eraill gan Emyr Hywel

Yn ogystal a bod yn llenor nodedig, D.J. oedd un o genedlaetholwyr pwysicaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Credai'n ddiysgog y dylai Cymru feddu ar y grym gwleidyddol i drefnu ei bywyd ei hun hen ymyrraeth yr Ymerodraeth Brydeinig. Cysegrodd ei fywyd i wireddu ei freuddwyd o weld Cymru'n Gymru rydd trwy weithio'n ddiflino dros Blaid cymru a cheisiodd gyflwyno'i weledigaeth i'w gyfoedion yn ei erthyglau gwleidyddol a'i weithiau llenyddol.

Ffynhonnell yr ysbrydoliaeth a'i cynhaliodd, trwy gydol oes o frwydro dygn, oedd ei ddelfryd o sefydlu yng Nghymru genedl ar batrwm y bywyd gwar, delfrydol a brofodd yn Rhydcymerau ym mlynyddoedd ei ieuenctid. Gadawodd Rydcymerau ac yntau ond yn un ar bymtheg oed a bu'n byw yn alltud yn Abergwaun am hanner can mlynedd. Efallai taw'r alltudiaeth hon a wnaeth D.J., y Cawr o Rydcymerau, yn un o fawrion ei genedl.

Dyma'r cofiant cyflawn cyntaf am fywyd a gwaith y Cymro nodedig hwn, a chyhoeddir ynddo hefyd, am y tro cyntaf, ddetholiad o'i ddyddiaduron.

ISBN: 9781847710574

Adran: Cofiannol

Iaith: Cymraeg

£14.95     







Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304