Hanes y llong a hwyliodd o Lerpwl i Batagonia - saith mil o filltiroedd i ffwrdd - ym mis Mai 1865. Ar fwrdd y Mimosa roedd 162 o ddynion, merched a phlant o Gymru oedd yn chwilio am fywyd gwell yn Ne America.
Ceir yma hanes adeiladu'r llong yn Aberdeen, ei pherchennogwyr a'r rhai oedd yn ei hwylio, ei theithiau fel cliper te yn hwylio ar rai o foroedd peryclaf y byd, ei thaith enwog i Batagonia a'i dyddiau olaf ar
arfordir Gorllewin Affrica.