Talybont  Aberystwyth
Ceredigion  Cymru  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ylolfa@ylolfa.com
chwilio am lyfr

chwilio manwl


Clawr | Cover

Cestyll yn y Cymylau

Mihangel Morgan  Llyfrau eraill gan Mihangel Morgan

Yn 1993 bu farw J Howard Beynon, Cymro a'r artist pwysicaf a fu'n trigo yn ein gwlad erioed - a wyddai neb am ei dalent enfawr na'i waith. Darganfuwyd casgliad o ddarluniau ysgrifbin ac inc yr athrylith o arlunydd yn dilyn ei farwolaeth, ac ers hynny bu ffrwydrad o ddiddordeb yn ei waith a'i fywyd drwy'r byd i gyd.

Hanai Beynon o Aberdyddgu a bu'n byw yno, fel meudwy bron, ar hyd ei oes yn gweithio fel glanhawr tai bach cyhoeddus ac yn byw bywyd anhysbys a disylw.

Dyma gofiant unigryw iddo gan un arall o Aberdyddgu. Aethpwyd ati yn y gyfrol hon i geisio dod i adnabod J Howard Beynon gan siarad am y tro cyntaf a'i gydnabod am yr artist a'i fywyd dirgel.

ISBN: 0862439795

Adran: Ffuglen

Iaith: Cymraeg

£6.95     




Adolygiadau

  "Does dim pall ar ddychymyg yr awdur hwn. Petai J Howard Beynon yn bod, byddai'n rhaid iddo ddyfeisio Mihangel Morgan er mwyn sgrifennu cofiant sy'n deilwng ohono." - Tony Bianchi




Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304