A wyddech chi mai Blaenau Ffestiniog yw'r dref gyda'r dwyster mwyaf o Jonesiaid yn y byd?
A wyddech chi fod 125 o lefydd yn y byd yn cynnwys yr enw Jones? (ond dim un yng Nghymru!)
Ac ystyrioch chi erioed pam fod cyfenw enwoca'r Cymry'n dechrau gyda llythyren sydd ddim hyd yn oed yn ein wyddor?
Yn y gyfrol hon cewch bob math o ffeithiau am y Jonesiaid, eu henw a'u henw da, a chewch gyd-ddathlu gyda'r 1,224 o Jonesiaid ddaeth ynghyd i dorri record byd ym mis Tachwedd 2006 yng nghyngerdd Jones, Jones, Jones.
Mwynhewch lu o bortreadau a ffeithiau am gymeriadau ddaeth a bri i'r enw yng Nghymru a'r byd. O Dai Jones Llanilar, Bridget Jones, Mrs Jones Llanrug, i deulu'r Cilie (Jones) - dyma wledd i bawb sy'n ymfalchio yn eu Jonesrwydd, a diddanwch i bobl o bob oed a phob cyfenw arall!