Tybed a oeddech chi yn nawnsfeydd Twrw Tanllyd, yn Eisteddfod Hwlffordd neu'n cofio Prins Charles yn Aberystwyth? Roedd Ray Daniel yno, yn y cysgodion yn "snapio" fel y bu ar hyd ei yrfa. Bydd rhai o'i ffotograffau'n gyfarwydd i chi ac mae llawer ohonynyt bellach yn eiconau cenedlaethol. Ers canol y chwedegau, bu'n cofnodi digwyddiadau ym myd adloniant, gwleidyddiaeth a chwaraeon Cymru. Bu hefyd drwy ei waith gyda'r Cymro a'r Cambrian News yn portreadu cymeriadau unigryw cefn gwlad Cymru.
Mae yma bortread byrlymus o Gymru drwy gyfrwng delweddau ffotograffydd sy'n dal y foment ac yn fframio'r testun i'r dim. Mae'r gyfrol hardd hon hefyd yn anrheg berffaith i unrhyw un sydd am ail-fyw profiadau'r degawdau diwethaf yng Nghymru.