I'r sawl a'i hadnabu, roedd Dafydd Marks yn sant o ddyn - yn Gristion gloyw, yn wr doeth a dysgedig ac yn gwmniwr diddan. Bu cenhedlaeth o fyfyrwyr yn drwm yn ei ddyled ac fe'i perchid yn fawr gan bawb yn ddiwahan.
Nid pawb oedd yn ymwybodol ei fod hefyd yn fardd dawnus ac mae'n drueni na chyhoeddwyd yr un gyfrol o'i waith tra bu byw. Ymgais i wneud iawn am hynny yw'r gyfrol fechan hon sy'n cynnwys pigion ei waith creadigol dros hanner canrif. Y mae'n gasgliad cyfoethog a gaiff groeso brwd gan ei gyfeillion a'i gydnabod ledled Cymru.
Brodor o Ddyffryn Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin oedd yr awdur. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth, ac aeth oddi yno i Goleg Prifysgol cymru, Aberystwyth ac yna i Goleg Iesu, Rhydychen. Bu'n Offeiriad ym mhlwyf Llandeilo, Llangathen a Llanddewi-y-crwys. Ym 1956 fe'i hapwyntiwyd yn bennaeth Adran y Gymraeg yng Ngholeg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan ac yn Llanbed y treuliodd weddill ei fywyd. Bu farw yn 1999.