Talybont  Aberystwyth
Ceredigion  Cymru  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ylolfa@ylolfa.com
chwilio am lyfr

chwilio manwl


Clawr | Cover

Cefn Gwlad Geoff Charles

Ioan Roberts  Llyfrau eraill gan Ioan Roberts

Er mai "towni" oedd Geoff Charles, cai ei ddenu gan fywyd cefn gwlad, a bu'n cofnodi ei hynt a'i dranc am hanner canrif a mwy. Teithiai gefn gwlad Cymru benbaladr gyda gohebwyr Y Cymro yn darlunio'i phobl, ei thraddodiadau, ei dathlu a'i dioddef.

Mae yn y gyfrol hon gant a mwy o'i ffotograffau eiconig, o Selina y feudwyes o Fynydd Hiraethog i fwd y Sioeau Brenhinol teithiol, o'r ceffylau gwedd i'r Myxomatosis. Mae yma ddarlun byw o'r "Hen Ffordd Gymreig o Fyw", ond mae hefyd yn gofnod o ddiwedd cyfnod - a dyna sy'n gwneud y delweddau yma mor bwerus a thrist.

Geoff Charles a'r Gymru Wledig: Pedwarawd y Buarth, Llandderfel;

Bwydo'r Rhyfel: Menyn y Sioe, Sioe Frenhinol Cymru Caernarfon;

“Cyfrinach Llwyddiant - Calch”, Llanidloes, Sir Drefaldwyn;

Merched y Tir, Trallwng;

Cario Yd, Llanfyllin;

Tatws Maldwyn, Llwydiarth;

Cyfoeth y Gwrychoedd, plant ysgol Trewern ger y Trallwng;

Gwaith a Chrefft: Cwrwglwr, Llechryd;

Saer Olwynion, Bodffordd, Ynys Môn;

Saer Cribiniau, Llanymawddwy, Meirionnydd;

Melinydd, Llanddeusant, Ynys Môn;

Töwr y Mason's Arms yng Nghydweli;

Teiliwr Llyn ac Eifionydd, Mr W M Parry, Fourcrosses;

Plygwr Gwrychoedd, Brynceunant;

Gof Aberdaron;

Gofaint Llanrug ger Caernarfon;

Casglu Cocos ar draeth Llansaint ger Cydweli;

Cewyllwr o Borth Amlwch, Môn;

Williams y Tryc, Cynwyd ger Corwen;

Ffair a Sioe: Mwd y Sioe Frenhinol, Machynlleth;

Sioe Mynytho;

Mart Croesoswallt;

Ffair y Bala;

Pencampwyr Cwn Defaid, o Bontllyfni;

Ymryson Aredig ym Mhen Llyn;

Sioe Hen Beiriannau yng nghwyl Capel Curig;

Deuawd Sioe Meirion, y brodor o Lundain;

Sioe Nefyn;

Sioe Gyntaf Llanelwedd;

Siopau a Gwasanaethau: Cau'r Siop yn Nanhoron, Llyn;

Diffodd y Trydan yn Llanfachreth ger Dolgellau;

Gwylio'r Bocs a Chario Dwr yn Rhos-y-bol, Ynys Môn;

Postmon Ceffyl o Dregaron;

Sioni Winwns ym Mhorthmadog;

Goroesi: Protest Llyn y Fan;

Brwydr Ysgol Bryncroes, Llyn;

Rali Ysgol Bryncroes;

Nant Gwrtheyrn;

Tai Llannerch-y-medd;

Bywyd i'r Anialwch, cynllun Trydan Dwr Rheidiol;

Pobl Olaf y Cwm, Cwm Blaenlliw rhwng Trawsfynydd a Llanuwchllyn;

Tryweryn;

Y Garnedd Lwyd, Tryweryn;

Eira Mawr y Ganrif;

Rhaeadr yn y Llan, Llanrheadr-ym-mochnant;

Syched yng Nghanol y Dwr, Enlli;

Marw 'Crwtyn Salem', Cwm Nantcol, Meirionnydd;

Cadw Dyletswydd, Llannor ym Mhen Llyn;

Diolchgarwch Cross Foxes, Carn Dolbenmaen;

Cymeriadau: Bugeiles o Dal-y-bont, Meirionydd;

Selina o Fynydd Hiraethog ger Nantglyn;

Bardd y Lorri Laeth, De Arfon;

Y Tramp ar fryn uwchben Dolgellau;

Elin Hughes, 102 oed o Riwlas ger Bangor;

Y Gwr o Baradwys, Llangristiolus, Ynys Môn;

Ann o Lyn;

Ysgubwr Dail yng Nganllwyd, Sir Meirionnydd;

Hen Arferion: Calan Hen, Llandysul;

Eiddo i Mari, Sarnau ym Meirionnydd;

Cyflaith yn ardal y Parc ger y Bala;

Canhwyllau Brwyn yn Abergeirw;

Byd Amaeth: Merched y Cynhaeaf yn Aberllefenni ger Machynlleth;

Heuwr ar fferm yn Chwilog;

Ceffylau Gwedd o Lanllyfni;

Llofft Stabal ger Boduan yn Llyn;

Diwrnod Cneifio ar fferm Nantymaen, Tregaron;

Cneifio Dyffryn Ceiriog;

Diwrnod Dyrnu, Llwyndyrys ger Pwllheli;

Saethwyr ym Môn;

Clwy'r Cwningod;

Hela heb Ladd ym Meirionnydd;

Twm y Ceffyl 'Gwyrdd', Carn Fadryn ym Mhen Llyn;

Mari'r Ferlen o Fodwrog, Ynys Môn;

Ysgubau Yd ym Modwrog, Ynys Môn;

Arallgyfeirio, Sir Feirionnydd;

Llefydd: Nantllwyd, Soar-y-Mynydd;

Rhydymain;

Llanfihangel-yn-Ngwynfa, Sir Drefaldwyn;

Tyn-y-braich, Dinas Mawddwy;

Llyn y Gadair, Rhyd-ddu;

ISBN: 0862438950

Adran: Celf Hanes

Iaith: Cymraeg

Ł12.95     




Adolygiadau

  "“Cyfrol arbennig iawn sydd nid yn unig yn clodfori dawn dihafal ffotograffydd poblogaidd, ond sydd hefyd yn croniclo cefn gwlad Cymru ar ei orau”
" - Y Cymro 21/07/06

  "“[C]yfrol yn ddogfen hanesyddol bwysig ac yn cofnodi ffordd o fyw sydd wedi ei drawsnewid dros y degawdau diwethaf.”" - Cylchgrawn y Sioe Frenhinol Amaethyddol 2006

  "Mae'r gyfrol hon yn apelgar i'r hen a'r ifanc fel ei gilydd. Bydd pori drwyddi'n dod ag atgofion melys am yr hyn a fu i'r to hyn, tra mae hi'n wers hanes i'r ifanc, ac yn rhoi cipolwg ar fyd a thraddodiadau sydd bellach wedi llwyr ddiflannu o'n gwlad." - Einion Dafydd, www.gwales.com




Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304