Prynwch y llyfr hwn, ewch adre, rhowch y tegell ymlaen a rhowch eich traed lan gyda phot o de (4 bag) a phaced o fisgedi (McVitie's Chocolate Hobnobs fyddai orau) a dechreuwch ddarllen.
Cewch fwynhau deg o storiau doniol a dadlennol am orchestion a thrychinebau carwriaethol, gyrfaoedd chwist, anturiaethau gwaedlyd, trafferthion gyda'r heddlu, datganiadau piano, lladrata arfog, casineb, trachwant, brad, cwffio a dartiau. Mwynhewch!