Helfa Drysor
Drama fywiog yng nghyfres Dramâu'r Drain; delfrydol i ysgolion, ac ar gyfer myfyrwyr yn ei harddegau. Yn hon ceir hanes pedwar ffrind sy'n dathlu gorffen eu Lefel A drwy fynd ar helfa drysor. A oes trysor yn Llyn y Lleuad tybed? Ac a all eu perthynas wrthsefyll y profiad?