Hanes canu poblogaidd Cymraeg rhwng 1980 a 2000. Llyfr swmpus sy'n adrodd stori'r cythryblus yr SRG mewn cyfnod o newid ac o ddatblygu. Sylw manwl i wleidyddiaeth mewnol cyfnod wnaeth esgor ar fandiau bydenwog.
Adolygiadau
"Mae'n waith aruthrol a fe ddylai gael ei wobrwyo mewn rhyw ffordd, oherwydd mae Hefin wedi gwneud cymwynas a'r genedl fan hyn." - Yr Herald
"…cofnod eithriadol bwysig a fydd, gobeithio, yn codi ymwybyddiaeth pobl ifanc o'r traddodiad roc a phop Cymraeg." - Rhys Mwyn, Y Cymro
"Mae Ble Wyt ti Rhwng? yn adrodd y stori yn onest ac yn frwdfrydig. Dyw Hefin Wyn ddim yn barnu nac yn trio rhoi gormod o sbin bersonol ar yr hanes, ond yn hytrach, mae'n gadael i gymeriadau'r sin ddod trwyddo. Ardderchog!" - Gareth Potter, Golwg
"Mae'r casgliad ar y diwedd yn codi cwestiynau sy'n annog y darllenydd i feddwl a ffurfio barn am ddyfodol ein diwylliant a'n hiaith. Llwyddodd felly i drosglwyddo ei wybodaeth i ni'n hynod o graff, ond hefyd ein hysgogi i ystyried ein tynged." - Rhiannon Heledd Williams, Y Cymro 25/08/06
"Byddwn yn annog unrhyw un sy'n ymddiddori yn y Sîn Gerddoriaeth Gymraeg i'w darllen." - Owain Schiavone, Western Mail 5/08/06