| Sgribls Hogan Flêr Gwen Lasarus Llyfrau eraill gan Gwen Lasarus
Croeso i fyd Corin, y ferch yn ei harddegau sy'n cael problemau gyda'i rhieni, bechgyn… wel pob dim mewn gwirionedd. Dyma ei dyddiadur gonest a hynod ddoniol. "Y llyfr perffaith i ferched ifanc - sy'n profi fod rhywun yn ein deall ni." Nora Oster (17 oed)
ISBN: 0862435684
Adran: Arddegau
Iaith: Cymraeg
£3.95
Adolygiadau "Nos Iau (10.00 o'r gloch) Newydd orffen darllen (ie, fi'n darllen…!) – eniwê, llyfr bril am yr hogan 'ma o'r enw Corin (cŵl o enw yn 'de?). Ma' hi'n 13 oed (fatha fi) ac yn cadw dyddiadur am ei ffrindiau, ei rhieni, yr hogie mae hi'n eu ffansïo, a phopeth grêt ac ofnadwy sy'n digwydd iddi. Mi wnes i chwerthin fel mochyn am ben ei hanes mewn pabell yn y Steddfod, ac ro'n i'n genfigennus iawn ohoni'n cael cariad 'lyfli'. Mae 'na ddarnau reit drist hefyd – mae Corin yn hogan ddigon sensitif. Hot choc cyn cysgu rŵan. Nos da!
Dydd Gwener (4.00 o'r gloch) Wedi deud wrth bawb yn y gang am ddarllen y llyfr yma – hyd yn oed y rhai fase ddim yn meddwl agor llyfr, heb sôn am ei ddarllen. Mae o'n fyr, yn ddoniol, ac mae Gwen Lasarus yn gwbod be 'di bod yn hogan. Gobeithio y bydd hi'n sgwennu mwy o lyfrau fatha hwn. Dwi am adel Sgribls Hogan Flêr ar fwrdd y gegin – gobeithio y bydd Mam yn ei ddarllen ac yn dallt pa mor anodd ydi bod yn fi.
" - Bethan M Hughes "Y llyfr perffaith i ferched ifanc - sy'n profi fod rhywun yn ein deall ni." - Nora Oster (17oed)
|
|